Aelodaeth Bwrdd y Rhwydwaith
Mae Bwrdd y Rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr clinigol ac anghlinigol yn ogystal â chynrychiolydd elusen a chleifion fel y nodir yn y Cylch Gorchwyl.
Gall Rhwydwaith Arennau Cymru (WKN) hefyd gyfethol aelodau allanol annibynnol ychwanegol o'r tu allan i'r sefydliad i ddarparu gwybodaeth a sgiliau arbenigol.
Mae'r ddolen hon yn arwain at Gylch Gorchwyl cyfredol Rhwydwaith Arennau Cymru. Pwrpas y ddogfen yw gosod allan y strwythur y mae aelodau wedi cytuno i weithio er mwyn cyflawni eu hamcanion.
Papurau Bwrdd y Rhwydwaith
Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd bob tri mis neu fel y gwêl Cadeirydd y Pwyllgor yn angenrheidiol. I gael gwybodaeth ychwanegol, mae Papurau Bwrdd y Rhwydwaith yn rhoi’r cyfle i weld cofnodion cyfarfodydd Byrddau’r Rhwydwaith.
Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd yr Arennau
Mae Rhwydwaith Arennau Cymru wedi cynhyrchu Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd yr Arennau. Mae’r datganiad ansawdd wedi’i dderbyn a’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r datganiad ansawdd yn disgrifio sut y dylai gwasanaethau o ansawdd da ar gyfer clefyd yr arennau edrych.