Mae eich tîm arennau a'ch meddyg teulu yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth am eich iechyd a chyflwr eich arennau
Mae tîm arennau cynhwysfawr i’ch cefnogi gan gynnwys nyrsys arbenigol Clefyd Cronig yr Arennau (CKD) a’u rôl yw eich arwain a’ch cefnogi ar eich taith arennau. Bydd y nyrsys CKD yn darparu gwybodaeth am sesiynau cymorth cymheiriaid a gynhelir gan eich tîm arennau lleol
Gall elusennau arennau helpu gydag amrywiaeth o faterion gan gynnwys cymorth cymdeithasol, cymorth gan gymheiriaid, help gyda budd-daliadau, cyllid a grantiau, a llawer mwy.
Mae'r wefan hon yn cynnwys adnoddau i helpu gyda llawer o faterion personol ac ymarferol. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, siaradwch â'ch tîm arennau neu'ch meddyg teulu.