Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer Corff a Symudedd

 

Ymarfer corff

 

 

Gemau Trawsblannu Prydeinig

Nod y Gemau Trawsblannu yw dangos manteision trawsblannu, gan annog cleifion trawsblannu i adennill ffitrwydd, tra'n cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r angen i fwy o bobl ymuno â Chofrestr Rhoi Organau'r GIG a thrafod eu dymuniadau gyda'u teuluoedd. Maent hefyd yn ceisio diolch a dathlu teuluoedd rhoddwyr a rhodd bywyd.

 

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Gallech gael grant gan eich cyngor os ydych yn anabl ac angen gwneud newidiadau i’ch cartref, er enghraifft i:

  • lledu drysau a gosod rampiau
  • gwella mynediad i ystafelloedd a chyfleusterau - ee lifftiau grisiau neu ystafell ymolchi i lawr y grisiau
  • darparu system wresogi sy'n addas ar gyfer eich anghenion
  • addasu rheolyddion gwresogi neu oleuo i'w gwneud yn haws i'w defnyddio

 

Cymhorthion Symudedd

Mae'r Groes Goch Brydeinig yn darparu dros 58,000 o gadeiriau olwyn i bobl ledled y DU bob blwyddyn. Gall y Groes Goch Brydeinig gynnig gwasanaeth llogi cadair olwyn gydag ategolion cadair olwyn a gwasanaeth 12 wythnos, am hyd at 20 wythnos. Os na allwch fforddio'r gost, efallai y bydd cymorth pellach ar gael.