Neidio i'r prif gynnwy

Atal CKD

Canfod yn gynnar, trin yn iawn: Atal niwed i'r arennau


Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol ar gyfer CKD Gofal Sylfaenol

Mae contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i feddygfeydd teulu yng Nghymru ei wneud, a sut maen nhw'n cael eu talu, fel rhan o'r GIG. Mae'n cwmpasu pethau fel archwiliadau, rheoli cyflyrau hirdymor, a sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel o ansawdd da.

Fel rhan o gytundeb y GMS, rhwng 2025 a 2026, mae Prosiect Gwella Ansawdd newydd yn canolbwyntio ar wella gofal i bobl â CKD. Y nod yw rhagnodi meddyginiaeth sy'n amddiffyn yr arennau, helpu canfod problemau arennau yn gynharach, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd yn well, ac i leihau'r risg y bydd clefyd yr arennau'n gwaethygu.

 

Gwella Systemau Digidol

Mae Rhwydwaith Arennau Cymru yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i'w gwneud hi'n haws i feddygon teulu a staff gofal iechyd eraill adnabod pobl â CKD a rhagnodi'r triniaethau cywir i helpu i amddiffyn yr arennau a'r galon.

 

Profi Ffyrdd Newydd o Weithio

Mae arbenigwyr arennau wrthi’n profi ffyrdd newydd o weithio, er enghraifft gweithio’n agosach gyda meddygon teulu, fferyllwyr ac arbenigwyr y galon i wella’r gofal a ddarperir i bobl â chlefyd yr arennau.

 

Beth allwch chi ei wneud?

Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr arennau a Chlefyd Cronig yr Arennau: Ynglyn ag Arennau

Os nad oes gennych chi ddiagnosis o glefyd yr arennau eisoes, gallwch chi wirio'ch risg o gael CKD gan ddefnyddio Gwiriwr Iechyd yr Arennau Kidney Care UK: Kidney Health Checker | Kidney Care UK

Gallwch siarad â'ch meddyg teulu, fferyllydd neu nyrs os oes gennych chi gwestiynau am CKD.

Os ydych chi eisoes o dan ofal tîm arbenigol yr arennau, siaradwch â nhw am gyngor a chefnogaeth.