Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru: https://wkn.nhs.wales
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 17/09/2020
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni trwy e-bost yn y lle cyntaf a byddwn yn trosglwyddo'ch cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, defnyddiwch ydudalen gyswllt
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Defnyddiwch y ffurflen gysylltu neu cysylltwch â ni drwy’r post yn y cyfeiriad canlynol: Rhwydwaith Arennau Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Uned G1, Main Avenue, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, CF37 5YL
Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 </a> Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 17/09/2020
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni 'WCAG 2.1 AA' mae gennym y materion canlynol o ddiffyg cydymffurfio ar hyn o bryd:
Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd gan fod dogfennau'n cael eu cynhyrchu cyn i'r wefan hon fynd yn fyw.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.
Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru fel a ganlyn: (ac yn destun newid).
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, o bryd i'w gilydd mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn Rhagfyr 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau’r Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennau polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd neu ddogfennaeth statudol megis Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
O bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi PDFs sy'n cynnwys 'trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi'u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen' er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - mae'r rhain y tu allan i'r cwmpas ac ni fyddant yn sefydlog.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd . Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.
Ar hyn o bryd nid oes gennym fap ffordd hygyrchedd, sy’n dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon, ond rydym yn bwriadu cael map ffordd erbyn Rhagfyr 2020.
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2020 a chaiff ei adolygu ym mis Ionawr 2021.