Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladar yn dathlu Wythnos Rhoi Organau 2026

Trefnodd Tîm Neffroleg Gogledd Cymru ddau ddigwyddiad gwych i godi arian ac ymwybyddiaeth i gefnogi Wythnos Rhoi Organau 2026. Yn y cyntaf ohonynt, gwelwyd y tîm a chleifion yn dringo'r Wyddfa. Adroddodd y tîm fod y diwrnod wedi mynd yn dda ar wahân i'r tywydd ofnadwy; cyrhaeddodd llawer o bobl y copa ond yn anffodus cafodd y trenau eu canslo felly ni allent roi dialysis ar ben y mynydd. Llwyddodd y tîm i gynnal demo dialtysis yn y ganolfan gymunedol a ddangosir isod.