Neidio i'r prif gynnwy

Menyw o Gonwy yn gwneud hanes gyda dialysis uchaf y DU ar yr Wyddfa

Mae menyw o Gonwy wedi gwneud hanes ar ôl derbyn dialysis ar gopa'r Wyddfa - gan godi ymwybyddiaeth o roi organau a phwysigrwydd cefnogaeth trawsblaniadau.

Cyrhaeddodd Julie McGrath, 61, uchelfannau newydd drwy dderbyn dialysis ar y copa, yn yr hyn a ystyrir fel yr uchder uchaf y mae claf wedi cael ei ddialysu yn y DU. Cafodd ddiagnosis o glefyd yr arennau polycystig yn 45 oed, a dywedwyd wrthi ychydig flynyddoedd yn ôl y byddai angen iddi ddechrau dialysis - triniaeth sy'n efelychu gwaith arennau iach drwy gael gwared ar wastraff, hylif gormodol a thocsinau o'r gwaed.


Ychwanegodd y Nyrs Arbenigol Rhoi Organau, Abi Roberts: “Roedd yn wych gweld bron i 100 o bobl yn dod allan i gefnogi taith gerdded eleni. Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i gadw’r sgwrs am roi organau i fynd – ac rydym yn annog pawb i gael y trafodaethau hanfodol hynny gyda’u hanwyliaid.”