Dewch i ymuno â'r sgwrs ynghylch Rhoi Organau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnal digwyddiad i drafod Rhoi Organau yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy ar 21 Medi o 10:00 - 15:45. Bydd y lleoliad ar agor i gofrestru o 09:15.
Bydd rhwydwaith Arennau Cymru yn mynychu'r digwyddiad i helpu i gefnogi a hyrwyddo Rhoi Organau yng Nghymru. Os hoffech fynychu, sganiwch y cod QR uchod neu cliciwch ar y ddolen i gofrestru ar gyfer y digwyddiad: cofrestrwch yma .
Cliciwch ar y dolenni os hoffech ddysgu mwy am roi arennau gan roddwyr byw ac ad-dalu treuliau rhoddwyr byw .